Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C

Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C

by Elain Price
Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C

Nid Sianel Gyffredin Mohoni!: Hanes Sefydlu S4C

by Elain Price

eBook

$9.49  $10.39 Save 9% Current price is $9.49, Original price is $10.39. You Save 9%.

Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Dyma’r astudiaeth gyntaf ar hanes blynyddoedd cynnar un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru – Sianel Pedwar Cymru – sy’n cloriannu penderfyniadau a gweithgareddau’r sianel yn ystod blynyddoedd ei chyfnod prawf rhwng 1981 a 1985. Trwy gyfrwng astudiaeth o gofnodion, gohebiaeth a chyfweliadau gydag unigolion fu’n allweddol i fenter gyffrous S4C, eir ati i ddarlunio’r sialensiau, y llwyddiannau a’r methiannau fu’n wynebu Awdurdod a swyddogion S4C wrth iddynt fynd ati i lunio gwasanaeth teledu Cymraeg fyddai’n ateb gofynion ac anghenion y gynulleidfa yng Nghymru. Ceir yn y gyfrol hefyd ddadansoddiad o’r gwersi y gall hanes y sianel ei gynnig i’w swyddogion cyfredol wrth iddynt fynd ati i’w gosod ar seiliau cadarn ar gyfer dyfodol sy’n ymddangos yn gynyddol ansicr.

Product Details

ISBN-13: 9781783168903
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 07/15/2016
Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 336
File size: 1 MB
Language: Welsh

About the Author

Dr Elain Price lectures in media at Swansea University.

Read an Excerpt

Nid Sianel Gyffredin Mohoni!

Hanes Sefydlu S4C


By Elain Price

Gwasg Prifysgol Cymru

Copyright © 2016 Elain Price
All rights reserved.
ISBN: 978-1-78316-890-3



CHAPTER 1

Y Frwydr dros Sianel Deledu Gymraeg


Yr oedd amgylchiadau geni S4C yn gwbl unigryw, gan ei bod yn sianel â enillwyd gan lais y bobl yn hytrach na dymuniadau gwleidyddion neu fasnachwyr yn unig. Oherwydd hyn y mae sylw manwl wedi ei roi i'r ymgyrchu gan amrywiol awduron eisoes. Mae'r un peth hefyd yn wir am gyfraniad y BBC, TWW, Teledu Cymru a HTV i ddarlledu Cymraeg cyn dyfodiad S4C. Bwriad y bennod hon felly yw bwrw golwg yn ôl dros rai o brif ddigwyddiadau'r frwydr i sefydlu S4C er mwyn atgoffa'r darllenydd o'r cyd-destun, gan ganolbwyntio ar y trafodaethau seneddol a gaed ar ffurf pwyllgorau Crawford ac Annan a gweithgorau Siberry a Trevelyan/Littler, agweddau'r darlledwyr tuag at y bedwaredd sianel a digwyddiadau'r blynyddoedd 1979–80 a fu'n allweddol i'r frwydr. Daw'r bennod i ben â dadansoddiad manwl o'r Ddeddf Darlledu 1981 a fyddai'n dod â Sianel Pedwar Cymru i fodolaeth.


Gwreiddiau'r bedwaredd sianel

Yr oedd ymwybyddiaeth gyffredinol ymysg y diwydiant darlledu a'r cyhoedd ar ddiwedd yr 1960au a dechrau'r 1970au fod trwydded ar gyfer pedwaredd sianel ddarlledu heb ei dosbarthu. Nododd Maggie Brown yn ei chyfrol ar hanes Channel 4 (C4): 'Television sets in the late 1960s came with four buttons ... but the fourth was blank, even though there was capacity for another service. It was known as the empty channel and became a growing source of vexation.'1 Gellid olrhain y posibilrwydd o ychwanegu pedwaredd sianel i rwydwaith ddarlledu Prydain yn ôl i adroddiad Pwyllgor Pilkington yn 1962.2 Wrth i'r pwyllgor adrodd ar ddosbarthu tonfeddi yn y dyfodol, er ei feirniadaethau hallt o ddiffygion ITV, fe gynigwyd y byddai modd i'r rhwydwaith sicrhau sianel ychwanegol, ond dim ond ar ôl profi ei ddealltwriaeth o brif amcanion darlledu. Am nifer o flynyddoedd yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad gwthiwyd trafodaethau am ddyfodol y bedwaredd sianel i waelod yr agenda wleidyddol gan lywodraeth Lafur Harold Wilson ac yna gan lywodraeth Geidwadol Edward Heath. Erbyn atgyfodi'r syniad ar ddechrau'r 1970au roedd nifer o garfanau eraill â diddordeb yn y bedwaredd sianel. Yr oedd y carfanau hyn yn lobïo yn erbyn y syniad o greu ITV2 gan eu bod am i'r sianel ehangu natur y darlledu a geid yng ngwledydd Prydain, apelio at gynulleidfaoedd lleiafrifol a sicrhau bod safbwyntiau gwahanol i'w clywed. Yr oedd anfodlonrwydd cynyddol ymysg aelodau o'r diwydiant a charfanau o'r gynulleidfa, fel y darlunia'r datganiad hwn gan Anthony Smith, un o aelodau'r TV4 Campaign ac un o leisiau amlycaf y ddadl dros dorri'r deuopoli darlledu ym Mhrydain:

You have to understand the role of the duopoly and why it became a tremendous vexation for thousands of people. The point was that society was no longer homogeneous. There were a great many different interest groups – the 1960s had shown that – but the screens were not catching up ... we were all made to believe the broadcasting we were getting was very good. I suppose it was by international standards; but it was all in the hands of this rather well-paid, superior civil-service class ... They couldn't hear, literally and metaphorically, what was going on around them, what demands were really being made – demands that their comfortable duopoly was able to frustrate.


Aeth Anthony Smith ymlaen i lunio cynllun a fyddai'n darparu'r sylfeini ar gyfer y sianel newydd, syniad a fedyddiwyd yn National Television Foundation. Mewn erthygl a gyhoeddwyd ganddo yn The Guardian ar 21 Ebrill 1972 cynigiwyd syniadau cwbl radical ar gyfer y sianel newydd. Un o elfennau pwysicaf y cynllun oedd na fyddai'r sefydliad darlledu newydd yn cynhyrchu ei raglenni ei hun, ond, yn hytrach, yn comisiynu rhaglenni gan gynhyrchwyr allanol. Byddai yn ehangu cwmpas darlledu ym Mhrydain, gan sicrhau bod lleisiau newydd, nad oedd yn rhan o gyfundrefnau mawrion y BBC ac ITV, i'w clywed. Datblygodd y syniad creiddiol o roi cyfle i leisiau newydd i fod yn gonglfaen y gwasanaeth a grëwyd yn y pen draw, ac fe gafodd ddylanwad mawr ar y bedwaredd sianel yng Nghymru, gan newid strwythurau darlledu yn gyfan gwbl.

Bu trafodaeth wahanol yng Nghymru am y defnydd y gellid ei wneud o'r sianel. Dechreuodd ymgyrch ddarlledu Cymdeithas yr Iaith ar ddiwedd yr 1960au gyda galwad am gynnydd yn nifer yr oriau o raglenni Cymraeg a ddarlledid, yn bennaf ar y BBC gan mai dim ond newydd ddechrau darlledu yr oedd HTV. Ond nid tan ddechrau'r 1970au y ffurfiwyd polisi cadarn cyntaf y Gymdeithas ar ddarlledu gyda'r nod o hawlio mwy na dim ond rhagor o raglenni Cymraeg gan y rhwydweithiau. Yng nghyfarfod cyffredinol y gymdeithas yn 1969 cytunwyd ar y polisi canlynol: 'Ein bod yn hawlio gan y Llywodraeth sianel genedlaethol i Gymru ar gyfer rhaglenni Cymraeg ar y teledu, yn ychwanegol at y sianel ar gyfer y Cymry di-Gymraeg, a thonfedd ar gyfer rhaglenni Cymraeg ar y radio'

Cafwyd naws lawer mwy strategol i waith y Gymdeithas gyda'r ymgyrch hon a chyhoeddwyd nifer o bamffledi, nifer ohonynt gan y llenor, cyn-ddarlithydd a chyfarwyddwr dramâu teledu, Emyr Humphreys, yn trafod darlledu yng Nghymru ac yn cynnig cynlluniau gweithredol ar sut y gellid addasu'r gyfundrefn er budd y Gymraeg. Ynghyd â'r gwaith polisi a strategaeth, bu cyfnod estynedig o ymgyrchu a phrotestiadau uniongyrchol gan y gymdeithas:

Trefnwyd gwrthdystiadau a ralïau y tu mewn a'r tu allan i ganolfannau'r BBC, HTV a'r Awdurdod Darlledu Annibynnol; dringwyd trosglwyddyddion teledu, gan rwystro darllediadau rhaglenni, darlledwyd rhaglenni radio ar donfedd anghyfreithlon 'Y Ceiliog'; torrwyd ar draws gweithgareddau Ta'r Cyffredin a Tha'r Arglwyddi a thorrwyd i mewn i stiwdios teledu a gorsafoedd darlledu yng Nghymru a Lloegr gan ddifrodi offer.


Dros gyfnod yr ymgyrch gwelwyd carcharu dros hanner cant o ymgyrchwyr am weithredoedd uniongyrchol o'r fath, gyda'r dedfrydau'n amrywio o noson yng ngharchar i flwyddyn o dan glo. Elfen fwyaf llwyddiannus ac effeithiol yr ymgyrch oedd y gefnogaeth a gaed i'r alwad i bobl Cymru wrthod talu trwyddedau radio a theledu. Denodd yr ymgyrch weithredwyr newydd i gorlan y gymdeithas gydag athrawon, darlithwyr, gweinidogion a phobl broffesiynol eraill yn estyn eu cefnogaeth yn y modd hwn i'r ymgyrch ddarlledu. Yr oedd y parchusrwydd a ystyrid ynghlwm wrth alwedigaethau nifer ohonynt yn allweddol wrth sicrhau hygrededd i'r ymgyrch. Bu hyn yn allweddol, yn ogystal, wrth gyfrannu at yr argraff a geid fod llywodraeth y dydd yn prysur golli cefnogaeth y 'farn gymedrol' yng nghyd-destun darlledu yng Nghymru.

Er bod yr ymgyrch wedi llwyddo i berswadio nifer fawr o Gymry mai trwy sicrhau sianel ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg y ceid yr amodau gorau i'r iaith, nid oedd pawb yn cytuno. Yr oedd grwp o Gymry dylanwadol a oedd yn cynnwys Dr Jac L. Williams, Jennie Eirian Davies, Syr Alun Talfan Davies ac Alun R. Edwards o HTV yn anghytuno gyda'r gosodiad y byddai sianel ar wahân o fudd i'r iaith. Rhybuddiodd Jac L. Williams y byddai'r Gymraeg yn dioddef petai'r rhaglenni yn cael eu gwthio i '[g]wt dan staer y bedwaredd sianel'. Credid y byddai'r Gymraeg ar ei cholled petai gwylwyr di-Gymraeg a Chymry Cymraeg nad oedd yn frwd dros yr iaith yn cael eu hynysu o raglenni Cymraeg yn gyfan gwbl. Credid hefyd y byddai geto'n cael ei greu gan niweidio'r iaith ymhellach. Yr oedd y garfan hon yn argymell cynyddu'r nifer o oriau a ddarlledid ar y sianeli poblogaidd, BBC Wales a HTV Wales, er mwyn sicrhau bod pawb yn dod i gysylltiad â'r iaith. Ond, gyda'r tensiynau rhwng y carfanau iaith yn prysur gynyddu, gwaethygu a wnâi'r sefyllfa gyda chynllun o'r fath. Yr oedd yr unigolion hyn mewn lleiafrif a gwelwyd yr ymgyrch am sianel ar wahân yn denu cefnogaeth carfanau annisgwyl, megis Aelodau Seneddol Llafur a oedd yn wrthwynebus i'r iaith Gymraeg fel George Thomas a Leo Abse. Pryderai rhai nad atal tranc yr iaith oedd cymhelliad yr unigolion hyn ond eu bod yn hytrach yn awyddus i weld y Gymraeg yn cael ei gwthio o'r neilltu ac yn diflannu'n gyfan gwbl o wasanaeth BBC Cymru a HTV. Meddai Aneirin Talfan Davies ar y pwnc: 'Pan fydda i'n gweld Mr George Thomas a Mr Leo Abse ... yn rhuthro i gofleidio Dafydd Iwan, rwyf am awgrymu mai dim ond y mwyaf naive o blant dynion fyddai'n barod i gredu mai yr un yw eu cymhellion.' Ar waetha'r ofnau hyn, bu'r gefnogaeth gan y garfan ddi-Gymraeg yn rhan annatod o'r penderfyniad terfynol i osod rhaglenni Cymraeg ar y bedwaredd sianel, gan eu bod yn uchel eu cloch yn cwyno am y rhaglenni rhwydwaith nad oedd ar gael iddynt eu gweld yng Nghymru.


Pwyllgorau seneddol

Yn ogystal â'r holl drafodaethau a geid ymysg darlledwyr, gwleidyddion a thrigolion Cymru yn ystod yr 1970au, sefydlwyd dau bwyllgor seneddol a dau weithgor er mwyn ymchwilio a thrafod dyfodol darlledu ym Mhrydain. Er bod ffocws cylch gorchwyl pob un yn wahanol, yr oedd gan bob pwyllgor rywbeth arbennig i'w ddweud am ddarlledu yng Nghymru a sut y gellid lleddfu'r tensiynau cymdeithasol. Sefydlwyd Pwyllgor Crawford yn 1973 o dan gadeiryddiaeth Syr Stewart Crawford, cyn ddirprwy is-Ysgrifennydd Gwladol i'r Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, i edrych yn bennaf ar ranbartholrwydd gan holi i ba raddau yr oedd y gwasanaethau darlledu yn ateb gofynion gwylwyr y cenhedloedd a'r rhanbarthau. Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth gan nifer o sefydliadau Cymreig bach a mawr, gan ddangos y pryderon gwirioneddol a goleddid gan amryw o drigolion Cymru am gyflwr y gyfundrefn ddarlledu a'i phwysigrwydd yn eu bywydau. Derbyniwyd tystiolaeth hefyd a gyflwynodd bob ochr y ddadl, ac er i Bwyllgor Crawford ystyried cynyddu nifer y rhaglenni Cymraeg a ddarlledid ar y prif sianeli, casglwyd bod rhan helaethaf y dystiolaeth yn galw am osod rhaglenni Cymraeg ar sianel ar wahân. Perswadiwyd y pwyllgor gan y dystiolaeth fod yr amgylchiadau yng Nghymru yn fwy argyfyngus na'r hyn a geid yng ngweddill Prydain, yn enwedig o safbwynt ffyniant y Gymraeg. I'r perwyl hwnnw, felly, y dylid rhyddhau'r bedwaredd sianel ar gyfer darlledu rhaglenni Cymraeg cyn gynted ag yr oedd hynny'n bosibl:

We give the highest priority in this field to a solution of the Welsh-language problem by the use in Wales of the Fourth Channel. And recommend that this should be undertaken, without waiting for a decision on its introduction in the rest of the country, and should not be delayed by restrictions on capital expenditure.

Argymhellodd hefyd y dylid trosglwyddo rhaglenni Cymraeg y BBC a HTV i'r sianel newydd, ac y dylid darparu cymhorthdal er mwyn galluogi cynnydd yn y nifer o oriau a gynhyrchid i 25, o'r 13 awr a ddarlledid yn 1974. Credai'r pwyllgor y byddai'r cymhorthdal yn fuddsoddiad teilwng:

The cost would represent an investment in domestic, cultural and social harmony in the United Kingdom; the money spent would, in effect, be aimed at supporting within the home the other central and local government expenditure which is being incurred to satisfy Welsh aspirations.


Roedd Pwyllgor Crawford wedi dechrau amgyffred natur y broblem ddarlledu yng Nghymru, a'r angen i'w aelodau lawn ddeall ei bod hi'n bwysig i unrhyw wasanaeth Cymraeg ddarlledu rhaglenni o safon gydradd â'r hyn a ddarlledid yn Saesneg os am ddenu a chadw gwylwyr. Er cefnogaeth glir Crawford, yr oedd argymhellion y pwyllgor yn hwb ac yn rhwystr yn yr ymgyrch dros sianel ar wahân i Gymru, a hynny, yn eironig, oherwydd bod y cynigion yn ateb nifer o ofynion yr ymgyrchwyr. Cyhoeddodd Alwyn D. Rees yn ei golofn olygyddol yn Barn fod y Cymry wedi 'Ennill Brwydr y Teledu' a nododd Cymdeithas yr Iaith 'nad oedd llawer o awydd am weithredu uniongyrchol difrifol ... pan fod pawb o dan yr argraff fod buddugoliaeth fawr wedi'i hennill'.

Fel rhan o ymrwymiad y llywodraeth i argymhellion pwyllgor Crawford, sefydlwyd gweithgor yn Ionawr 1975 o dan gadeiryddiaeth Mr J. W. M. Siberry, cyn is-ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, er mwyn ystyried sut y gellid gwireddu sefydlu'r bedwaredd sianel yng Nghymru. Dengys adroddiad y gweithgor y daliai'r aelodau i ystyried mai trwy'r BBC a HTV yn unig y dylid cynhyrchu rhaglenni ar gyfer y bedwaredd sianel. Gwrthodwyd y syniad o blethu rhaglenni'r ddau rhwng ei gilydd, a nodwyd y dylid rhannu'r wythnos yn ei hanner. Argymhellwyd y dylai HTV ddarlledu ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener a'r BBC ar ddyddiau Mawrth, Iau a Sadwrn, ac y rhennid dydd Sul rhwng y ddau. Yr oedd y patrwm hwn yn hwylus er mwyn sicrhau y gellid gosod hysbysebion rhwng rhaglenni HTV heb iddynt darfu ar ddarpariaeth y BBC. Ond yr oedd hyn yn wastraffus oherwydd y dyblygu adnoddau a fyddai'n angenrheidiol ar y ddwy ochr. Er gwaethaf y rhaniad amlwg yr oedd awydd i sefydlu un dull cyflwyno clyweledol a phatrwm tebyg o raglenni ar hyd yr wythnos. Cafwyd anghytuno taer ar y mater hwn o du'r BBC a HTV, gan i'r BBC ddymuno darlledu ei rhaglenni mewn bloc er mwyn sicrhau eu bod yn adnabyddus fel rhaglenni'r gorfforaeth, tra oedd HTV am ddosbarthu ei rhaglenni ar draws yr amserlen, gan ddarlledu rhaglenni merched yn ystod y dydd, rhaglenni plant ar ddiwedd y prynhawn ac yn y blaen. Un o brif argymhellion Siberry oedd y dylid darlledu 25 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos, sef dwbl yr hyn a ddarlledwyd ar y pryd a'r hyn yr oedd yr ymgyrchwyr yn galw amdano. Er yr adroddiad cadarnhaol a gafwyd gan Siberry, fe'i cyhoeddwyd mewn cyfnod ariannol anodd i'r llywodraeth a oedd yn amharod i wario ar fentrau newydd. At hynny, yr oedd pwyllgor darlledu arall, Pwyllgor Annan, o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Noel Annan, profost Coleg Prifysgol Llundain (1966–78), eisoes wrthi'n ymchwilio i ddyfodol darlledu ym Mhrydain ac, o ganlyniad, ni welwyd gweithredu argymhellion gweithgor Siberry.

Ni thrafodwyd mater y bedwaredd sianel yng Nghymru yn fanwl gan Annan, fel y dywed John Davies yn ei gyfrol: 'As the government had by then accepted the Crawford Report and had established the Siberry working party, the Committee's members assumed that, at least where Wales was concered, the fourth channel issue had already been settled.' Yn adroddiad Annan argymhellwyd y dylid rhoi'r bedwaredd sianel i'r Open Broadcasting Association (OBA), sef sefydliad cenedlaethol a fyddai'n comisiynu rhaglenni gan gyrff megis y Brifysgol Agored, cwmnïau ITV a chwmnïau annibynnol gan wireddu gofynion Anthony Smith a TV4. Sylweddolid na fyddai'r OBA yn debygol o fod yn barod i ddechrau darlledu tan ddechrau'r 1980au ac felly yng Nghymru awgrymwyd y dylid gwireddu cynigion gweithgor Siberry gan roi'r bedwaredd sianel yng ngofal y BBC a HTV cyn ei throsglwyddo i'r OBA pan fyddai honno wedi ei sefydlu. Ystyrir mai atgyfnerthu'r hyn a argymhellwyd gan Crawford yn 1974 a wnaed gan Annan, ond gellir dadlau i'r adroddiad wanhau'r ddadl oherwydd yr iaith amhendant a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad: 'The proposals of the Siberry Working Party for establishing a fourth television channel in Wales broadcasting in the Welsh language should be implemented as soon as the Government can find the necessary finance.' Cynigwyd, felly, ddihangfa i'r llywodraeth a oedd yn parhau mewn trafferthion ariannol. Yr oedd nifer hefyd yn gweld trosglwyddo'r sianel Gymraeg i ddwylo'r OBA pan fyddai honno'n weithredol yn broblematig, oherwydd ei fod yn symud ymhellach oddi wrth y cysyniad o greu 'sianel Gymraeg' ac awdurdod darlledu ar wahân ar gyfer Cymru. Fe'i beirniadwyd ym mhamffled 'Teledu Cymru i Bobl Cymru' Cymdeithas yr Iaith yn y termau hyn: 'ymddengys mai nod yr Adroddiad oedd dod o hyd i ddull o gadw darlledu Cymraeg a Chymreig o fewn rhigolau'r peirianwaith Prydeinig'. Diau hefyd y dylanwadwyd ar Annan gan ddadl bwerus Dr Jac L. Williams, gan i'r adroddiad gyhoeddi:

The Siberry Working Party envisaged that there would be no programmes in Welsh on the other television services; but we would regret it if all Welsh language programmes were banished to the fourth channel and we think it would be the worse for the Welsh language and the heritage of Wales.

Roedd Annan, felly, yn datgymalu'r cydsyniad a geid rhwng Crawford a Siberry ynglan â dyfodol darlledu yng Nghymru. Drylliwyd y consensws brau ymhellach gan y gweithgor nesaf, dan gadeiryddiaeth Dennis Trevelyan, a sefydlwyd i ddiweddaru gwaith Siberry, a oedd wedi dyddio oherwydd oedi i wireddu ei argymhellion. Yr oedd y llywodraeth yn awyddus i ddangos ei bod yn gweithredu ar fater sianel deledu Gymraeg, er ei bod wedi casglu, yn arolwg gwariant cyhoeddus 1976, na ellid cyfiawnhau gwariant o'r fath oherwydd cyni ariannol y wladwriaeth. Ymhlith aelodau'r gweithgor yr oedd nifer o staff Adran Ddarlledu'r Swyddfa Gartref, ynghyd â dau gynrychiolydd o'r BBC, Owen Edwards, rheolwr BBC Cymru a G. D. Cook, pennaeth peirianyddol trosglwyddyddion y gorfforaeth, a dau gynrychiolydd o'r rhwydwaith ddarlledu annibynnol, Anthony Pragnell, dirprwy gyfarwyddwr cyffredinol yr Awdurdod Darlledu Annibynnol (ADA) ac Aled Vaughan, cyfarwyddwr rhaglenni Cymru HTV. Yr oedd cyfnod yr egwyddorion a'r syniadau uchelgeisiol ar ben bellach, ac yma caed cyfle i'r dynion a wyddai am fanylion gweithredu y darlledwyr i ddod â dos o realaeth i'r trafodaethau ynghylch sefydlu sianel Gymraeg. Bu'r gweithgor wrthi am 14 mis a phan gyhoeddwyd yr adroddiad, datganodd Dr Glyn Tegai Hughes nad oedd yn ddim mwy na fersiwn gwanhaëdig o Adroddiad Siberry. Diau yr ysgogwyd Glyn Tegai Hughes i feirniadu fel hyn o ystyried mai 21 awr o ddarlledu Cymraeg, yn hytrach na'r 25 awr a argymhellwyd yn flaenorol, a drafodwyd ynddo. Yr oedd y gweithgor yn awyddus i weld y twf mewn darlledu Cymraeg yn cael ei osod ar seiliau cadarn: 'byddai cynyddu'r adnoddau'n raddol o ran cyllid, adnoddau staff a lle stiwdio yn galluogi'r gwahanol gyrff darlledu i wneud eu cyfraniad tuag at y gwasanaeth Cymraeg mewn ffordd ddiffwdan a threfnus'. Yr awgrym a geir yma yw y gellid llyffetheirio gwasanaeth Cymraeg â gofynion cynhyrchu trwm na fyddai modd i'r awdurdodau darlledu eu cynnal, ac, o ganlyniad, methiant fyddai ei hanes. Yr oedd y ffigwr o 25 awr wedi tyfu yn ffigwr symbolaidd o gynnydd arwyddocaol mewn rhaglenni Cymraeg, gydag Adroddiad Siberry wedi nodi nad oedd diben sefydlu gwasanaeth Cymraeg annibynnol oni ddechreuid o'r sail hwnnw. Ond er mwyn ei gyrraedd yr oedd angen dirfawr am ragor o ofod stiwdio, cyfleusterau technegol atodol a chyflogi ymron 400 o staff ychwanegol, datblygiadau nad oedd modd eu gwneud ar frys. Mae'n amlwg hefyd fod cyd-destun ariannol y cyfnod wedi cael effaith sylweddol ar drafodaethau'r gweithgor, gan yr awgrymwyd gwariant cychwynnol a oedd yn llai na hanner y buddsoddiad a argymhellwyd gan Siberry.


(Continues...)

Excerpted from Nid Sianel Gyffredin Mohoni! by Elain Price. Copyright © 2016 Elain Price. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.

Table of Contents

Contents

Diolchiadau,
Lluniau,
Byrfoddau,
Rhagymadrodd,
1. Y Frwydr dros Sianel Deledu Gymraeg,
2. Deunaw Mis o Baratoi – Dyddiau Cynnar Awdurdod Sianel Pedwar Cymru,
3. Gwireddu'r Arbrawf – Darllediadau Cyntaf ac Argraffiadau'r Gynulleidfa,
4. Mentrau Ariannol – Sicrhau Telerau Teg ac Ehangu i Feysydd Newydd,
5. Adolygu'r Sianel – Arolygon Barn ac Archwiliad y Swyddfa Gartref,
Cloriannu,
Atodiad. Aelodau Awdurdod Sianel Pedwar Cymru (1981–1985),
Llyfryddiaeth,
Nodiadau,

From the B&N Reads Blog

Customer Reviews